Grŵp Trawsbleidiol Cymru ar Nychdod Cyhyrol a Chyflyrau Niwrogyhyrol

Crynodeb o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf 2015

Yn bresennol:

Bethan Jenkins AC, Aled Roberts AC, Julie Morgan AC, Mark Isherwood AC

40-50 o bobl yr effeithir arnynt gan gyflyrau cyhyrau’n nychu a gweithwyr iechyd proffesiynol

Muscular Dystrophy UK

Dr Tracey Cooper, Cadeirydd Rhwydwaith Niwrogyhyrol Cymru

 

Dechreuwyd y cyfarfod gan Bethan Jenkins AC.

Cyhoeddodd Dr Grant Duncan, y Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Gofal Iechyd yn Llywodraeth Cymru bod hyd at £60,000 o arian newydd ar gael ar gyfer cefnogaeth ymgynghorol  gofal niwrogyhyrol  fel rhan o weithgarwch parhaus i wella mynediad at ofal niwrogyhyrol arbenigol yng Nghymru.

Soniodd Dr Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chadeirydd Rhwydwaith Niwrogyhyrol Cymru, ynghylch y cyllid o £358,000 ar gyfer offer arbenigol, sydd wedi cynorthwyo  100 o unigolion a theuluoedd sydd â chyflyrau cyhyrau’n nychu, a phwysleisiodd ei bod yn bwysig bod y Rhwydwaith yn agosach at ble y mae penderfyniadau’n cael eu gwneud. Gall y Rhwydwaith fod yn adnodd ymgynghori  i Fyrddau Iechyd, i roi argymhellion y Rhwydwaith ar gyfer gwella gwasanaethau yng Nghymru ar waith.

Cafwyd trafodaeth agored ynghylch cael gafael ar gyfran o’r £1.2 miliwn sydd ar gael o ffrwd ariannu’r Grŵp Gweithredu Cyflyrau Niwrolegol.

Amlygwyd bod bwlch mawr yn y gwasanaethau o ran Cymorth Seicolegol  - mae llawer o weithwyr iechyd proffesiynol nad oes ganddynt ddealltwriaeth o gyflyrau cyhyrau’n nychu.

Roedd cydnabyddiaeth gyffredinol ynghylch pwysigrwydd astudiaethau achos cleifion.

Y wybodaeth ddiweddaraf, yn fyr,  ar fynediad at y cyffur Translarna yng Nghymru.

Diwedd y cyfarfod.